PWY YW CURIAD Y DRWM?
Yn gyntaf oll criw o bobl ydym sy’n cwrdd yn rheolaidd i wella ein gallu i chwarae’r drwm ffrâm Celtaidd (Bodhrán yn Iwerddon = Bow-ran yw’r ynganiad). Cawn ein cynorthwyo yn ein hymdrechion gan ein tiwtor drymiau, Alan Collinson, Alan ydy’r un sy’n gwisgo’r het goch ddeniadol yn y llun. (gweler Bodhrán Wisdom). Deuwn o sawl cefndir, megis siopwyr, mapiwr, cynllunwyr meddalwedd, peiriannydd.
Yn ail grŵp perfformio ydym, grŵp sy’n gallu eich diddanu chi a chynnal gweithdai, fel y gwnaethom sawl gwaith mewn ysgolion, Eisteddfodau Cenedlaethol ac yn ogystal rydym wedi rhoi perfformiadau llwyfan ar achlysuron mwy ffurfiol, megis ar lwyfan Awditoriwm Anthony Hopkins yn yr ysblennydd Theatr Clwyd Yr Wyddgrug, Gogledd Cymru. Os ydych chi’n mwynhau yr anarferol, y cyffrous a bod yn wahanol er mwyn swyno a difyrru eich ffrindiau a’ch teuluoedd dewch atom, rydym yma ar eich cyfer.
Bydd rhai o’r aelodau yn chwarae yn gyson mewn bandiau lleol, gweler The Wee Bag Band